Manylion y penderfyniad

Housing (Wales) Act 2014 – Homelessness

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To discuss implementation of new legislation and emerging challenges.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad hwn oedd yn yn rhoi’r cefndir i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yn cynnig datblygiadau tai arloesol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl ifanc dan 35 oed.  Roedd hefyd yn cynnwys cynigion i ddarparu llety dros dro gwell a llochesi mwy cost-effeithiol i bobl yn cysgu ar y stryd.  Byddai’r cynigion yn cynorthwyo’r Cyngor i barhau i atal digartrefedd ac osgoi unrhyw gysgu ar y stryd yn y Sir.

 

                        Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi pwyslais llawer cryfach ar atal digartrefedd ac roedd y Cyngor wedi cymryd nifer o gamau i sicrhau y gallai gydymffurfio â’r dyletswyddau newydd a rheoli’r pwysau ychwanegol.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod argaeledd tai’n risg gynyddol i’r gwasanaeth a bod y niferoedd ar y gofrestr gymdeithasol wedi codi’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.  Ar gyfartaledd, roedd pobl yn gorfod aros 11 mis am eiddo 3 llofft ac nid oedd y cyflenwad presennol i bobl sengl yn ateb y galw, gyda’r prinder tai yn cael effaith ar ddefnydd y Cyngor o lety dros dro.  Roedd y Cyngor yn gwneud mwy na’i ddyletswydd statudol ac yn cartrefu unrhyw un oedd heb unman diogel i aros ac roedd rhai o’r lleoliadau’n mynd yn estynedig ac yn rhoi baich ariannol ar y Cyngor.  Cyfeiriodd yr adroddiad hefyd at y pwysau ychwanegol ar y Cyngor gyda dod o hyd i opsiynau tai addas a phwysigrwydd y gwasanaethau oedd yn atal pobl rhag mynd yn ddigartref.  Byddai unrhyw doriadau i’r cyllid pontio a / neu’r cyllid Cefnogi Pobl yn cyflwyno risg bellach i’r Cyngor.

 

                        Roedd datblygiadau newydd yn cynnwys cynyddu nifer y tai oedd ar gael i’r gr?p dan 35 oed ac roedd cais wedi’i wneud am gymorth i’r gronfa tai arloesol i ddatblygu mwy o unedau llai a / neu wedi eu rhannu.  Ar gyfer llety dros dro, roedd cyfle i’w ddatblygu mewn ffordd fwy effeithlon a’i gysylltu i addysg a chyflogaeth.  Roedd cais am gymorth hefyd wedi’i wneud i’r Gronfa Tai Arloesol i ddatblygu’r maes hwn er mwyn darparu amgylchedd trawsnewidiol a chadarnhaol i rai oedd am dorri’r cylch o fod yn ddigartref.

 

            O ran cysgu ar y stryd, roedd y Cyngor eisiau rhwystro hyn ond roedd angen ystyried opsiynau eraill yn lle gwely a brecwast a gwestai.  Roedd y rhain yn cynnwys lloches dros dro a gweithio gyda’r trydydd sector ac elusennau i sefydlu cronfa i dalu am eitemau hanfodol i bobl ddigartref ac i redeg lloches argyfwng.

 

            Hefyd ar gael oedd dull cwbl newydd sef Tai yn Gyntaf.   Nid oedd gan y dull hwn unrhyw ragdybiaeth ynghylch pobl i’w galluogi i dderbyn llety, gyda’r llety’n cael ei ddarparu’n aml yn y sector rhentu preifat a chymorth yn cael ei ddarparu i gwrdd ag anghenion yr unigolyn.  Roedd angen dull amlddisgyblaethol oedd yn gwneud mwy na helpu gyda digartrefedd a materion tai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad.  Gofynnodd pe bai aelod o’r teulu’n helpu drwy ddarparu llety dros dro a fyddai hyn yn anfanteisiol i’r person digartref drwy gael eu rhoi’n bellach i lawr y rhestr.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid nad oedd hynny’n digwydd ac nad oedd unrhyw beth i atal teulu rhag cynnig help; roedd y statws digartref yn aros.

 

Dywedodd y Cynghorydd Butler fod yr adroddiad yn dangos pa mor bositif oedd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig mwy na’r hyn oedd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth ac yn esiampl o awdurdod gofalgar.

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton ddull Tai yn Gyntaf o geisio gwneud i ffwrdd â defnyddio llety dros dro drwy ailfeddwl ynghylch sut i ddelio gyda digartrefedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r diweddariad ar reoli’r ddeddfwriaeth newydd yng nghyswllt Deddf Tai (Cymru) 2014;

 

(b)       Nodi’r heriau a wynebodd y Cyngor gyda dod o hyd i opsiynau tai addas ar gyfer cartrefi, a’r risg bellach i hyn pe bai’r cyllid pontio’n dod i ben a / neu’r cyllid Cefnogi Pobl yn wynebu toriadau; a

 

(c)        Cymeradwyo mewn egwyddor y cynigion i ddatblygu tai newydd i liniaru digartrefedd yn y sir.

Awdur yr adroddiad: Katie Clubb

Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2017

Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 27/07/2017

Accompanying Documents: