Manylion y penderfyniad
Procurement Strategy Action Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To approve the action plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Gaffael a oedd wedi’i baratoi i ddangos sut y byddai canlyniadau’r Strategaeth yn cael eu cyflawni. Roedd y cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys mesurau a fyddai’n cael eu defnyddio i olrhain cynnydd.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynllun Gweithredu wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Arolygu a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar a’i fod wedi derbyn cefnogaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod posibilrwydd o gydweithio â mwy o Gynghorau. Roedd y Strategaeth wedi bod yn waith ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych gan eu bod wedi cynnal y Tîm Caffael ar gyfer y ddau awdurdod.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton y categorïau ar gyfer y camau gweithredu a gynlluniwyd, yn arbennig y rheiny ar fuddion cymunedol. Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar y trefniadau ar gyfer buddion cymunedol a fyddai’n dangos llawlyfr a fyddai ar gael i gontractwyr, yn esbonio beth oedd buddion cymunedol priodol ar gyfer gwahanol fathau o gontractau.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynllun gweithredu a'r mesur a fydd yn cael ei adrodd yn gyhoeddus yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/10/2017
Accompanying Documents: