Manylion y penderfyniad

Digital Strategy - Digital Customer

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To approve the Digital Strategy action plan.

Penderfyniadau:

Bu i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) gyflwyno’r adroddiad Strategaeth Ddigidol - Y Cwsmer Digidol, oedd yn cynnig dull o gyflawni’r strategaethau hynny, gan ganolbwyntio ar alluogi cwsmeriaid i gysylltu â’r Cyngor a defnyddio’r gwasanaethau, pan fo’n briodol, drwy ddefnyddio technoleg.

 

            Amlinellwyd enghreifftiau penodol o sut y byddai’n gweithio yn yr adroddiad, yn cynnwys cynigion i lansio Cyfrif Cwsmer a Phorth Talu fyddai’n galluogi i gwsmeriaid brynu amrywiaeth o wasanaethau gan y Cyngor ar-lein ac o un pwynt mynediad.  Byddai cwsmeriaid fyddai angen cysylltu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn cael mwy o gymorth gan staff gwasanaeth cwsmeriaid fyddai fel arall yn delio ag ymholiadau ellid eu datrys drwy fynediad digidol.

 

            Dros gofnod o amser byddai’n dull yn arwain at effeithlonrwydd fyddai’n cynorthwyo cyflawni strategaeth ariannol y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd y dull yn gyffredinol yn ymwneud â moderneiddio a gwella sut mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau drwy wneud u defnydd gorau a mwyaf priodol o dechnoleg ddigidol.  Er mwyn cyflawni hynny, cynigwyd buddsoddiad cychwynnol o £0.550m er mwyn cefnogi gwelliannau drwy ddarparu cynnwys digidol i’r cwsmer a sicrhau y gallai systemau TG y swyddfa gefn gyflwyno yn y modd yr oedd ei angen yn ôl y dull.  Byddai effeithlonrwydd yn y dyfodol yn talu am y buddsoddiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol pryd y’i cefnogwyd a’i croesawyd gan yr Aelodau.  Gofynnodd Aelodau y Pwyllgor hwnnw am fanylion arferion gorau Cynghorau eraill; byddai’r manylion hynny naill ai’n cael eu rhannu i aelodau neu byddai gweithdy yn cael ei drefnu.  Dywedodd bod y Strategaeth ddigidol nid yn unig yn offeryn o fydd i drigolion, ond ei fod hefyd yn offeryn allweddol o ran gweithio â phartneriaid allweddol megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader (BCUHB). Mynegodd ei ddiolchgarwch i’r adran TG am ddatblygu’r porth cwsmeriaid yn fewnol.

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) y byddai cyswllt dros y ffôn a wyneb yn wyneb ar gael o hyd.  Ychwanegodd y byddai’r timau gwasanaeth cwsmeriaid bach presennol yn cael eu cyfuno, ac y byddai hynny yn cynyddu cydnerthedd yn ystod cyfnodau o alw brig mewn gwahanol ardaloedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cytuno ar weithredu’r Strategaeth ddigidol a’r Strategaeth Cwsmeriaid fel blaenoriaeth a chanolbwyntio ar wella gwasanaethau ar gyfer ‘Cwsmeriaid Digidol’;

 

(b)      Cytuno mewn egwyddor ar sefydlu cronfa fuddsoddi o £0.550m, yn ddibynnol ar cwblhau adolygiad o gronfeydd wrth gefn er mwyn clustnodi o ble y daw’r cyllid, er mwyn cefnogi cyflawni’r gwaith hwn ar yr amod y bydd y swm hwn yn cael ei dalu’n ôl ar ffurf effeithlonrwydd yn y dyfodol o leiaf, fydd yn arwain at ddim costau i’r Cyngor.  Mae hynny’n cynnwys y trefniadau contract penodol tair blynedd ac ailddylunio gwaith rolau tîm y Gwasanaeth Cwsmeriaid fel y manylir ar hynny yn yr adroddiad.  Cymeradwyir awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet priodol er mwyn gweithredu’r trefniadau hyn o ran ailddylunio swyddi; a

 

(c)    Lansio’r Cyfrif Cwsmeriaid ym Mawrth 2018 fydd yn galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth yma, a rhoi adborth cychwynnol ar y gwasanaeth fel y gellir ei ddatblygu dros gyfnod o amser.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/03/2018

Accompanying Documents: