Manylion y penderfyniad

Active Travel Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update the Committee ahead of the formal consultation period on the Active Travel Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i amlinellu cefndir y cynigion ar y drafft o Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol a manylion rhaglen yr ymgynghoriad cyhoeddus.  Rhoddodd Llywodraeth Cymru (LlC) ddyletswydd ar gynghorau i fodloni gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.  Yn rhan o’r rhwymedigaethau hyn, mae mapiau llwybrau teithio llesol presennol y Cyngor wedi’u cymeradwyo gan LlC o fewn y terfyn amser.

 

Dangosodd Swyddog Polisi Priffyrdd sut i fynd at ddogfennau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) drwy’r ddolen ar wefan y Cyngor.  Byddai’r MRhI yn cynnwys cynigion i wella’r isadeiledd ar gyfer cerddwyr a beicwyr i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau ar draws y sir yn ogystal â chynnig darpariaeth hamdden.  Roedd y cynigion (yr oedd rhai ohonynt yn destun cytundebau pellach) wedi’u dangos ar chwe map o wahanol ardaloedd anheddol ynghyd â map trosolwg o’r sir.  Roedd y wefan hefyd yn cynnwys manylion am sesiynau galw heibio'r ymgynghoriad cyhoeddus.  Roedd disgwyl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 24 Medi 2017, pan fyddai’r holl ymatebion yn cael eu hystyried er mwyn gallu cyflwyno’r MRhI terfynol i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo erbyn 3 Tachwedd 2017.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai teithio llesol yn ategu datblygiadau cynllunio a bod yr ardaloedd anheddol gwreiddiol a oedd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru wedi'u hehangu i ystyried 'pob llwybr sydd â phwrpas'.

 

Soniodd y Cynghorydd Cindy Hinds am annog rhieni i gerdded gyda’u plant i’r ysgol er mwyn caniatáu mwy o le parcio y tu allan i ysgol.  Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, fod lled pafinau a gwrychoedd rhy fawr yn broblem mewn rhai ardaloedd.  Cyfeiriodd Swyddog Polisi Priffyrdd at ddolen a e-bostiwyd yn ddiweddar at yr aelodau yngl?n â gwaith roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i bartneriaid yn ei wneud mewn perthynas â hyn.  Dywedodd fod rhai o’r cynigion yn cynnwys mapiau llwybrau presennol ac y gellid gwneud cynigion am gyllid ar gyfer cynlluniau diogelwch.  Unwaith y byddai’r MRhI wedi’i gymeradwyo, byddai’r Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau eraill i fanteisio ar ffynonellau cyllid a oedd ar gael.

 

Mewn perthynas â diogelwch ffyrdd y tu allan i ysgolion, gofynnwyd i aelodau ddod â meysydd sy'n peri pryder at sylw swyddogion.  Roedd y Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu cyllid ar gyfer tri chynllun i ostwng nifer y ceir a oedd yn parcio y tu allan i'r ysgol ac roedd yn croesawu cyfleoedd i ehangu hyn i ardaloedd eraill.  Cydnabu’r Cynghorwyr Chris Bithell a Paul Shotton gynnydd mewn perthynas ag ymgynghori ar gynlluniau arfaethedig yn eu wardiau nhw.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod LlC wedi darparu swm cyfyngedig o gyllid i gynghorau er mwyn bodloni gofynion teithio llesol.  Roedd yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn cael cyllid grantiau i gwblhau'r cynlluniau.

 

Galwodd y Cynghorydd Owen Thomas am ladd gwair yn amlach ar hyd ffyrdd er mwyn i feicwyr allu gweld yn well ac i atal damweiniau.  Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiad at y dyfodol wedi’i drefnu ar safonau lladd gwair a oedd heb eu newid ac roedd yn annog yr aelodau i roi gwybod am unrhyw ardaloedd penodol lle'r oedd pryder yngl?n â diogelwch.

 

Rhoddodd y Cynghorwyr Owen Thomas a Haydn Bateman enghreifftiau o lwybrau a oedd yn cynnwys rheilffyrdd segur a oedd wedi’u harchwilio yn y gorffennol.  Mewn perthynas â’r diwethaf, rhoddwyd eglurhad pam nad oedd y llwybr penodol hwn yn ymarferol gan fod angen caniatâd gan y perchnogion tir.

 

Cyfleodd y Cynghorydd Chris Dolphin ei siomedigaeth mewn perthynas â deilliannau teithio llesol a theimlai nad oedd rhai cynlluniau'n ymarferol o'r cychwyn cyntaf oni bai fod cyllid yn cael ei ddyrannu.  Roedd hefyd yn teimlo bod angen lladd gwair yn amlach ar hyd ffyrdd gwledig er mwyn helpu beicwyr.  Dywedodd Swyddog Polisi Priffyrdd fod yr holl gynlluniau wedi’u harchwilio a bod modd eu cwblhau pe ceid cyllid a phe gellid goresgyn materion perchnogaeth tir priodol a chytundebau/trwyddedau cyfreithiol, gan gynnwys Gorchmynion Traffig Ffyrdd llwyddiannus.  Dywedodd y Prif Swyddog fod y cynigion yn cynnig rhai cynlluniau blaenoriaeth yn ogystal â rhai y byddai angen eu datblygu dros y tymor hir.  Roedd yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad gan y byddai galw am gynlluniau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn llunio achos cryfach ar gyfer cynigion am gyllid.  Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) bwysigrwydd gweithio gyda’r Adran Gynllunio i wneud y gorau o gyfleoedd am gyllid o’r sector preifat.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans ar y dudalen fapio ryngweithiol, byddai Swyddog Polisi Priffyrdd yn gofyn i’r rhain gael eu tynnu oddi ar y wefan gan nad oeddent yn gyfredol.

 

Soniodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin am bartneriaethau gwaith a fyddai o fantais i Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a Phorth y Gogledd.  Pwysleisiodd bwysigrwydd teithio llesol mewn ardaloedd fel Shotton a Chei Connah a’r angen i'r DU fabwysiadu gwell isadeiledd ar gyfer beicwyr, fel sydd i'w weld yn Ewrop.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at gynigion mewn perthynas â Metro Gogledd-ddwyrain Cymru fel cludiant integredig sy’n cynnwys cydweithio rhwng cynghorau, LlC a busnesau lleol.  Mewn perthynas â chysylltiadau â chludiant cymunedol, roedd diweddariad wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ar gyflwyno prosiectau penodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau, pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas benderfyniad y Cyngor i ehangu’r llwybrau y tu allan i’r ardaloedd anheddol gwreiddiol a dywedodd y byddai pob awgrym yn cael ei ystyried, gan gynnwys y rhai a grybwyllwyd ynghylch rheilffyrdd segur.  O ran llad gwair, dywedodd y byddai’r polisi’n cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, gan gynnwys goblygiadau cyllid.  Wrth gyfeirio at y wybodaeth a ddosbarthwyd yngl?n ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gofynnodd i e-byst yn y dyfodol fod â nodyn briffio er mwyn tynnu sylw’r aelodau at y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi rhaglen ddigwyddiadau'r ymgynghoriad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad arall ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: