Manylion y penderfyniad

Flintshire County Council’s response to the Welsh Government A55/A494/A548 Deeside Corridor Consultation Document

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider Flintshire County Council’s response to the Welsh Government consultation.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ymateb y Cyngor i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru (LlC) ar Goridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548.  Dechreuodd y broses ymgynghori ym mis Mawrth 2017 ar 2 opsiwn posibl i wella coridor yr A55/A494/A548, a chynhaliwyd nifer o arddangosfeydd ymgynghori cyhoeddus yn yr ardal leol, gan roi manylion i drigolion a busnesau am y ddau opsiwn oedd wedi’u datblygu a’u hasesu gan LlC.  Gellid dod o hyd i fanylion y ddau lwybr (llwybrau glas a choch) ar wefan LlC, ac roedd copi o’r ddogfen ymgynghori ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 3.

 

            Dangoswyd manylion ymateb y Cyngor a’r opsiwn yr oedd yn ei ffafrio yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Ystyriai’r Cyngor, rhwng popeth, mai’r llwybr mwyaf buddiol i’r Cyngor ac i Ogledd Cymru fyddai opsiwn y llwybr coch, ond mae hefyd yn ystyried y dylid cynnwys elfennau ychwanegol (y mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys yn opsiwn y llwybr glas) o fewn y cynigion terfynol, er mwyn cael y budd mwyaf posibl o’r prosiect yn gyffredinol.

 

            Nododd y Cynghorydd Marion Bateman na allai gefnogi ymateb y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori, ac amlinellodd ei phryderon o ran y dewisiadau ‘cynhennus’ a gynigir gan LlC, gan nodi na theimlai hi y byddai’r un ohonynt yn mynd i’r afael â phroblemau Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548.  Cwestiynodd yr incwm ychwanegol a ragwelir ar gyfer yr economi o’r llwybr coch, o ystyried bod busnesau Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy o blaid y llwybr glas.  Gofynnodd tybed lle byddai’r lefel uwch o draffig yn mynd ar ôl cyrraedd Llaneurgain a holodd a oedd y llwybr coch yn mynd yn groes i bolisi cynllunio o ran datblygu yn y rhwystr glas.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Vicki Perfect yn erbyn y llwybr coch arfaethedig a’r effaith negyddol y byddai hwn yn ei gael ar ardal wledig Sir y Fflint.  Adroddodd bod Cyngor Tref y Fflint wedi ymateb i LlC fel rhan o’r broses ymgynghori i gefnogi’r llwybr glas arfaethedig.

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog bod busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi codi pryderon yngl?n â’r amhariad y byddai cyflawni’r gwaith gwella yn ei achosi.  Roedd wedi’u cynghori i anfon eu pryderon ymlaen yn uniongyrchol i LlC fel rhan o’r broses ymgynghori.

 

            Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Clive Carver, nododd y Prif Swyddog y byddai’r A548 yn troi’n gefnffordd pe bai LlC yn rhoi opsiwn y llwybr coch ar waith, ac y byddai LlC yn dod yn gyfrifol am gostau cynnal a chadw Pont Sir y Fflint yn y dyfodol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori lle cafwyd consensws i gefnogi’r llwybr coch, y teimlai ef fyddai’n darparu gwell mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.   

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Bateman y dylai’r Pwyllgor ystyried y llwybr gwyrdd a gynigiwyd gan Gyngor Cymuned Llaneurgain a Chyngor Tref y Fflint cyn i ymateb y Cyngor gael ei gyflwyno i LlC.  Eiliodd y Cynghorydd Chris Dolphin y cynnig, gan ychwanegu y dylid gofyn i LlC gynnwys lôn araf o Northop Hall tuag at Helygain ar yr A55. Dywedodd y dylid gofyn i’r Cabinet ystyried y llwybr gwyrdd arfaethedig gan nad oedd yn teimlo y byddai’r llwybrau coch na glas yn mynd i’r afael â’r problemau presennol.  Pan gynhaliwyd y bleidlais, collwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi gwerthusiad opsiynau’r Cyngor ar gyfer y ddau lwybr posibl ac ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: