Manylion y penderfyniad
Active Travel Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To update Cabinet ahead of the formal
consultation period on the Active Travel Plan
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd wrth gyflawni swyddogaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac fe ddywedodd fod y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar gyfer map rhwydwaith integredig arfaethedig y Cyngor yn y dyfodol.
Roedd y Ddeddf yn gofyn bod awdurdodau lleol Cymru’n llunio mapiau teithio llesol ar gyfer yr ardaloedd o aneddleoedd diffiniedig ac yn darparu gwelliannau o un flwyddyn i'r llall ar lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau teithio llesol a oedd arnynt. Roedd hefyd yn gofyn bod awdurdodau priffyrdd Cymru’n gwneud gwelliannau i’r llwybrau ac yn ystyried cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr ym mhob cynllun gwella ffyrdd newydd ac yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr.
Roedd y mapiau rhwydwaith integredig wedi’u datblygu ac roeddent yn barod ar gyfer trafodaethau anffurfiol ac roedd ymgynghoriadau a digwyddiadau gyda budd-ddeiliaid allweddol wedi’u cynnal ers mis Mawrth 2017.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet fis Hydref 2017 yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y map rhwydwaith integredig arfaethedig at y dyfodol a'r atodlenni ategol o welliannau arfaethedig i lwybrau cerdded a beicio yr oedd eu hangen ar y rhwydwaith cyn cyflwyno’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru erbyn 3 Tachwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge pa mor bwysig oedd cyhoeddusrwydd i’r cynllun hwn, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau ymgynghori.
Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac fe ddywedodd ei bod yn credu y byddai'r llwybrau beicio sydd eisoes wedi'u darparu yn cael eu defnyddio'n amlach pe bai mwy o oleuadau ar y llwybrau hynny.
PENDERFYNWYD:
Y dylid cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cyfnod ymgynghori a oedd i ddod ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Integredig y Cyngor a oedd wedi’u cynllunio, a fyddai’n dechrau fis Gorffennaf 2017.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2017
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/06/2017
Accompanying Documents: