Manylion y penderfyniad
Flintshire Public Services Board and the Well-being of Future Generations Act (Wales) 2015
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
Adoption of the Council’s well-being
objectives and progress of the work of the Public Services
Board.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu adroddiad a oedd yn gofyn i Aelodau’r Cyngor newydd nodi’r dyletswyddau deddfwriaethol statudol ac ail-fabwysiadu Amcanion Llesiant y Cyngor (ar ôl eu mabwysiadu'n flaenorol cyn pen y terfyn amser statudol) ar gyfer adolygiad yn y dyfodol.
Cafwyd cyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:
· Trosolwg
· Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
· Asesiad o Les
· Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint
· Rolau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Awdurdodau Lleol
· Themâu Blaenoriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint – Hen a Newydd
· Strategaeth y Dyfodol – Cynllun Llesiant
· Amcanion Lles y Cyngor
Rhannwyd gwybodaeth gefndirol am y saith nod lles a oedd yn sylfaen i’r Ddeddf a fyddai’n cael eu cyflawni drwy weithio mewn partneriaeth. Byddai Asesiad Llesiant y Cyngor yn help i fod yn sail i flaenoriaethau a gynhwysir yn y cynllun llesiant – a ddisgrifiwyd fel strategaeth bartneriaeth – a byddai angen ei chyhoeddi erbyn mis Mai 2018.
Roedd y cyrff statudol a’r cynrychiolwyr gwirfoddol sy’n ffurfio aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwneud cynnydd da ar weithio mewn partneriaeth. Cytunodd y Prif Weithredwr gyflwyno awgrym blaenorol y Cynghorydd Hilary McGuill sef cynnwys cynrychiolydd Cyngor yr Ifanc unwaith y bydd wedi’i sefydlu. Cytunodd hefyd argymell y dylid cael cynrychiolydd busnes lleol, fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau’n nodi’r dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydnabod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w cyflawni; a
(b) Bod yr Amcanion Llesiant a gyflwynwyd yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol blaenorol yn cael eu hail-fabwysiadu.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/06/2017 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: