Manylion y penderfyniad

Update on Provision of Residents Parking Schemes and Disabled Bays on the Highway Network

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the Residents Parking Policy and confirm the process for the provision of marked disabled bays on the public highway.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd ddiweddariad ar ddarparu cynlluniau parcio i breswylwyr a lleoedd i bobl anabl ar y rhwydwaith priffyrdd.

 

            Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Bolisi Parcio i Breswylwyr yn 2013, a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Ers cyflwyno’r polisi, mae nifer o gynlluniau wedi datblygu i’r cam ‘pleidlais leol’, ond ym mhob achos, mae’r cynnig wedi methu â chael y lefel ofynnol o gefnogaeth leol, felly nid oes unrhyw gynlluniau parcio i breswylwyr wedi’u rhoi ar waith yn y Sir.  Er gwaethaf y diffyg prosiectau llwyddiannus, roedd mwyfwy o alw am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr ymysg preswylwyr ac ardaloedd cymunedol ledled y Cyngor, ac roedd bellach angen dull o flaenoriaethu.

 

            Cynigiwyd felly y dylid gweithredu Matrics Asesu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr, ynghlwm yn Atodiad 3, i flaenoriaethu'r cynlluniau a geisir.  Hefyd yn yr adroddiad, rhoddwyd manylion yr opsiynau sydd ar gael i breswylwyr sy’n gwneud cais am le parcio i bobl anabl ar y stryd y tu allan i’w heiddo.       

 

            Awgrymodd y Cynghorydd David Evans y dylid cynnwys manteision ac anfanteision y cynllun yn y llythyr wrth gychwyn ymgynghori â’r preswylwyr ar gynllun parcio arfaethedig.  Gwnaeth sylwadau ar y polisi ar gyfer cynlluniau parcio i breswylwyr ac awgrymodd y dylid cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen er mwyn gallu mynd ymlaen â chynllun o 50% i 75%.   Gofynnodd hefyd a fyddai cyflwyno cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio ar y stryd.

 

            Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd yr esboniwyd manteision ac anfanteision cynllun parcio i breswylwyr yn ystod y digwyddiadau galw heibio a’r ymgynghoriad cyhoeddus.  Cytunodd i edrych ar gynyddu’r isafswm o ymatebion sydd eu hangen i 75% a nododd y byddai cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio sydd ar gael.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sean Bibby, nododd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd, os na fyddai cynllun parcio i breswylwyr yn llwyddiannus, y byddai'r preswylwyr yn cael gwybod pam y methodd y cynllun trwy ddigwyddiadau ymgynghori lleol.

 

            Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â chynllun arfaethedig yn Yr Wyddgrug a’r diffyg eglurder i’r preswylwyr, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd y byddai’n ymchwilio i’r mater hwn yn dilyn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Argymell y newidiadau i’r Polisi Parcio i Breswylwyr presennol i’r Cabinet, gyda diwygiad, sef cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen gan breswylwyr o 50% i 75%;

 

(b)       Argymell Matrics Asesu’r Cynlluniau Parcio i Breswylwyr i’r Cabinet, fydd yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu ceisiadau yn y dyfodol am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr; a

 

(c)        Nodi meini prawf a phroses darparu mannau parcio wedi’u marcio i bobl anabl ar briffordd gyhoeddus.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: