Manylion y penderfyniad

Update on the Council’s Car Parking Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To confirm the date for the introduction of charges in Flint. To review the Pedestrianisation Order for Buckley and Holywell town centres. To agree the pilot arrangements for trialling free parking arrangements across the county.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Gwasanaethau Ategol ddiweddariad ar Strategaeth Barcio’r Cyngor yn dilyn ei rhoi ar waith yn 2015.

 

             Ers cymeradwyo'r Strategaeth Barcio ym mis Ebrill 2015, mae ffioedd parcio wedi cael eu cyflwyno yng nghanol chwe thref ar hyd a lled Sir y Fflint, ac fel rhan o’r strategaeth honno, cynigiwyd cyflwyno ffioedd yng Nghanol Tref y Fflint ym mis Medi 2015. Oherwydd gwaith adfywio parhaus a’r defnyddio o feysydd parcio lleol fel compownd adeiladu dros dro, ni ddatblygwyd y strategaeth o gwbl yn ystod yr amser hwnnw.  Wrth i’r gwaith hwn ddirwyn i ben a’r meysydd parcio’n cael eu rhyddhau, roedd y Cyngor bellach mewn sefyllfa i fynd â'r strategaeth yn ei blaen fesul cam yn y Fflint, fel y gwelir yn Atodiad 1.

 

            Roedd parthau cerddwyr yn unig ar waith yn Stryd Fawr Treffynnon a Stryd Fawr Bwcle, wedi’u sefydlu ers 1992 a 2000 yn y drefn honno.  Cynigiwyd adolygu’r parthau cerddwyr yng nghanol y ddwy dref ac archwilio'r posibilrwydd o osod lleoedd parcio am ddim am gyfnod cyfyngedig ar y ddwy Stryd Fawr er mwyn cefnogi busnesau lleol.  Cyn cychwyn y broses ymgynghori ffurfiol, ac yn unol â pholisi’r Cyngor, cynigiwyd gofyn i’r Cynghorau Tref gadarnhau eu safbwynt ar y newidiadau arfaethedig a chynnal proses ymgynghori anffurfiol i fesur cefnogaeth leol (neu fel arall) ar gyfer y newidiadau arfaethedig.

 

            Cyflwynwyd ffioedd parcio yng Nghanol Tref Treffynnon fis Medi 2015 yn unol â’r Strategaeth Barcio y cytunwyd arni gan y Cabinet.  Arferwyd prydlesu maes parcio preifat dan berchnogaeth yr Eglwys Gatholig ar Stryd y Ffynnon i Gyngor Sir y Fflint, ond pan gafwyd gwared â’r ffioedd yn Nhreffynnon yn 2013, daethpwyd â’r cytundeb prydlesu i ben.  Cafwyd sgwrs ragarweiniol gyda’r Eglwys ac maent bellach yn cefnogi ailsefydlu’r cytundeb blaenorol fyddai’n pasio rheolaeth y safle i Gyngor Sir y Fflint.  

 

            Croesawodd y Cynghorydd Joe Johnson y cynnig i gynnwys maes parcio Stryd y Ffynnon o fewn strategaeth barcio Treffynnon a gofynnodd a roddwyd ystyriaeth i gyflwyno pwyntiau gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio yn Sir y Fflint.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai Llywodraeth Cymru yn rhyddhau arian i osod pwyntiau gwefru ceir trydan, felly byddai adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Vicki Perfect o blaid y rhaglen i gyflwyno Strategaeth Barcio’r Fflint fesul cam, gan nodi fod hyn yn rhesymol ac yn unol â Strategaethau Parcio eraill yn Sir y Fflint.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Chris Dolphin o blaid cael gwared ar y parth cerddwyr yng Nghanol Tref Treffynnon a gofynnodd am gael ymgynghori â pherchnogion busnes yn Nhreffynnon, gan gynnig cyfnod prawf.  Ceisiodd y Cynghorydd Richard Lloyd sicrwydd y byddai’r ymgynghoriad ar y parth cerddwyr yn cael ei gynnal mewn ffordd fyddai’n sicrhau bod barn pawb yn cael cynrychiolaeth deg.  Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai y byddai ymarfer ymgynghori yn cael ei gynnal gan Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon ac y byddent yn penderfynu sut orau i gynnal y broses ymgynghori.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Argymell cyflwyno Strategaeth Barcio’r Fflint fesul cam i’r Cabinet;

 

(b)       Cefnogi adolygiad o’r ddarpariaeth barcio oddi ar y stryd, Llwybr Beicio Stryd yr Eglwys a Chynllun Parcio i Breswylwyr o fewn Canol Tref y Fflint;

 

(c)        Argymell i’r Cabinet bod gofyn i Gynghorau Tref Bwcle a Threffynnon gynnal ymgynghoriad anffurfiol ar adolygiad posibl o'r parthau cerddwyr yng nghanol eu trefi; ac

 

(d)       Argymell cynnwys maes parcio Stryd y Ffynnon o fewn strategaeth barcio Treffynnon i’r Cabinet.  

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: