Manylion y penderfyniad
Improvement Plan 2016/17 Outturn Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
Endorse summary of progress against the aims
and objectives contained within the Improvement Plan
2016/17
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwella 2016/17. Roedd yn adroddiad cadarnhaol ac roedd 100% o’r camau a aseswyd yn gwneud cynnydd da ac 82% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunid. Ar ben hynny, roedd 66% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wella ar y targed ar gyfer y flwyddyn ac roedd hanner yn dangos gwelliant neu'n parhau'n sefydlog.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (45%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (42%). Ychwanegodd nad oedd lefel isel (goch) o hyder yn unrhyw un o’r camau gweithredu o ran cyflawni deilliannau.
Eglurodd Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol y rhannau lle'r oedd y dangosyddion perfformiad yn dangos statws goch ac roedd manylion llawn wedi'u nodi yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad diwedd blwyddyn y Cynllun Gwella’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Yn dilyn hynny, byddai drafft o Gynllun y Cyngor 2017-23 yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 18 Gorffennaf cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ar 27 Medi.
O ran y Tai Blaenoriaeth a oedd â statws goch, soniodd y Cynghorydd Thomas am y cynllun cadarnhaol a oedd wedi’i gyflawni gyda thrigolion Treuddyn a oedd wedi newid i wres canolog nwy, ac roeddent oll yn fodlon â'r canlyniad.
Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar y gostyngiad cadarnhaol yn nifer y lleoedd ysgol gwag ar ôl agor Campws Treffynnon. Byddai hyn yn cynyddu ymhellach yn y dyfodol agos gan fod Ysgol Uwchradd John Summers ar fin cau.
Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at fod yr un mor uchelgeisiol dros y misoedd nesaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar y lefelau cynnydd a hyder yng nghyflawniad gweithgareddau lefel uchel sy’n ceisio darparu effeithiau’r Cynllun Gwella;
(b) Cytuno ar y perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad y Cynllun Gwella; a
(c) Y gall yr Aelodau deimlo wedi'u sicrhau o ran cyflawni cynlluniau a chamau gweithredu i gyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun Gwella 2016/17 yn amodol ar sylwadau adolygiadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2017
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/06/2017
Accompanying Documents: