Manylion y penderfyniad
School Organisation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To provide an
update on school federation and organisation proposals.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad am Drefniadaeth Ysgolion a oedd yn amlinellu amodau a oedd ynghlwm wrth fenter ariannu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) i hyrwyddo arloesi a chodi safonau mewn ysgolion bach a gwledig. Amlygwyd manylion cais y Cyngor am gyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn Sir y Fflint yn yr adroddiad.
Yn yr adroddiad hefyd cafwyd manylion y datblygiadau positif yn y gwaith o greu ffederasiynau ysgol newydd yn rhwydwaith ysgolion y Cyngor.
Byddai’r cyllid ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn cael ei ddefnyddio i hwyluso ac annog arloesi a newid a fyddai o fudd i’r ysgolion hynny, eu disgyblion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Prif ddibenion y cyllid grant oedd:
· Annog arloesi;
· Cefnogi mwy o waith ysgol i ysgol;
· Darparu cymorth gweinyddol ychwanegol mewn ysgolion ble roedd gan y pennaeth ymrwymiad addysgu arwyddocaol o 10% o'r amserlen o leiaf; a
· Chynyddu defnydd y gymuned o adeiladau’r ysgol boed hynny at ddibenion addysgol neu anaddysgol.
Wrth sôn am gynnydd ffederasiynau ysgol, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod gan Lywodraethwyr Ysgolion y grym i ddewis ffedereiddio o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd yn 2010. Tan yn ddiweddar, dim ond un enghraifft oedd wedi bod o Lywodraethwyr Sir y Fflint yn defnyddio eu grymoedd i ffedereiddio gyda ffederasiwn ffurfiol. Cytunwyd ar ffederasiwn ffurfiol rhwng Ysgol Mornant ac Ysgol Maes Garmon yn ystod y broses cynigion statudol i gau Ysgol Mornant. Byddai’r Cyngor yn ymdrechu i gefnogi ffederasiwn mewn achosion ble mae cyrff llywodraethu ysgolion yn cyd-gytuno.
Cytunodd Cyrff Llywodraethu Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan ac Ysgol y Waun ac Ysgol Gynradd Gwernymynydd i gynnal ymgynghoriad ynghylch cynnig i sefydlu ffederasiwn yn eu hysgolion/ardaloedd perthnasol. I Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan, byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Ionawr 2018. I Ysgol y Waun ac Ysgol Gwernymynydd byddai ffederasiwn yn cael ei weithredu’n swyddogol ar 8 Chwefror 2018. Byddai pob ffederasiwn yn cael ei reoli gan un Pennaeth Gweithredol.
Ym mis Rhagfyr 2016, comisiynodd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion statudol ar ddau safle, un ohonynt oedd cyfuno Ysgolion Brynffordd a Licswm i ffurfio un ysgol ar ail safle. Yn dilyn trafodaethau gyda'r ddwy ysgol, argymhellwyd y dylid cael egwyl fer er mwyn caniatáu i swyddogion weithio gyda Chyrff Llywodraethu’r ddwy ysgol cyn i argymhelliad gael ei roi gerbron y Cabinet, a chefnogwyd yr argymhelliad hwnnw.
O ran Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Nercwys, roedd yr Awdurdod Esgobaethol wedi cynnal trafodaethau positif gyda'r Llywodraethwyr yngl?n â'r posibilrwydd o ffurfio ffederasiwn ffurfiol gyda phartner addas ac roedd trafodaethau cynnar wedi dechrau gydag ysgol arall. Roedd y Llywodraethwyr wedi cytuno, mewn egwyddor, cydweithio’n fwy agos ag ysgol arall a sefydlu Is-bwyllgor ar y cyd a fyddai’n cael ei gynnal yn yr hydref ble byddai ffederasiwn yn cael ei drafod. Cefnogwyd hyn ac argymhellwyd fod mwy o amser yn cael ei roi ar gyfer trafodaethau.
Soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y camau positif a gymerwyd gan rai ysgolion i wneud ymdrech frwd i ffedereiddio.
Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid treulio mwy o amser gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Licswm a Brynffordd ac y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod ymyrraeth Llywodraeth Cymru i ysgolion bach a gwledig a’r ymgynghoriad arfaethedig i newid y Cod Trefniadaeth Ysgolion;
(b) Cydnabod y cynnydd tuag at drefniadau ffedereiddio ysgolion;
(c) Cael egwyl fer i ganiatáu i swyddogion weithio gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion Licswm a Brynffordd; a
(d) Bod penderfyniad blaenorol y Cabinet ynghylch Ysgol Nercwys yn cael ei gynnal er mwyn caniatáu mwy o amser i’r Cyngor, yr Awdurdod Esgobaethol a Chorff Llywodraethu’r Ysgol i ddilyn opsiynau strategol ar gyfer cydlafurio a chynaliadwyedd ystâd yr ysgol.
Awdur yr adroddiad: Damian Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/10/2017
Accompanying Documents: