Manylion y penderfyniad
Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a gofynnodd pam ei fod wedi methu datgelu euogfarnau ar Adran 5 o’r ffurflen gais trwyddedu o ystyried bod yr Awdurdod wedi derbyn euogfarnau blaenorol trwy ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Tra’n egluro ei fod wedi cam ddehongli’r cwestiwn i adlewyrchu unrhyw euogfarnau moduro, pwysleisiodd yr ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth i'w guddio. Mewn ymateb i ymholiadau gan y panel, rhoddodd eglurhad ar yr amgylchiadau'n ymwneud â’i euogfarnau a ddigwyddodd rai blynyddoedd cynt ac eglurodd amryw o faterion yn ymwneud â’r rhain mewn ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr. Pan ofynnwyd iddo, roedd yr ymgeisydd yn datgan ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded, gan ddweud ei fod yn awyddus i weithio i gefnogi hyn.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad.
4.1 Penderfyniad am yr Ymgeisydd
Wrth wneud penderfyniad am y cais, roedd y panel wedi ystyried canllawiau’r Cyngor ar drin euogfarnau a oedd gyda’r adroddiad. Er fod gan y panel bryderon am fethiant yr ymgeisydd i ddatgan ei euogfarnau blaenorol, ystyriwyd amgylchiadau'r euogfarnau hynny a'r amser ers iddynt ddigwydd. O ganlyniad, roeddent yn ystyried bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.
4.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd fod y panel wedi ystyried y sylwadau gan bawb, ac ar sail hynny, cytunwyd i ganiatáu’r cais.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 25/07/2017
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/06/2017 - Is-bwyllgor Trwyddedu