Manylion y penderfyniad

North Wales Residual Waste Treatment Project (NWRWTP)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

Project update and operational implications for Flintshire

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn darparu manylion Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

                        Roedd y broses gaffael wedi dod at ei therfyn ac roedd contract wedi’i lofnodi â Wheelabrator Technologies Inc (WTI) er mwyn adeiladu a gweithredu cyfleuster trin gwastraff Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy ac fe fyddai’r cyfleuster ar waith yn llawn erbyn 2020. Roedd Wheelabrator Technologies Inc (WTI) wedi ymgysylltu â’r gymuned leol ac fe fyddent yn parhau i wneud hynny drwy gydol y broses adeiladu a thu hwnt i hynny.

 

                        Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y pum awdurdod partner wedi goruchwylio’r broses gaffael ac wedi ymgysylltu â Chabinetau a Phwyllgorau Craffu ar gamau allweddol yn y broses.  Roedd y prosiect wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy'r adeg ac roedd y Llywodraeth wedi neilltuo £140 miliwn dros gyfnod 25 mlynedd y contract.  Pan fyddai ar waith, byddai’r Gronfa Manteision Cymunedol yn cychwyn, a fyddai werth £230,000 y flwyddyn, gyda £180,000 yn dod gan awdurdodau partner a £50,000 yn dod gan Wheelabrator.  Byddai’r gronfa ar gael i brosiectau cymunedol yn ardal Glannau Dyfrdwy.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Attridge i Gyn-aelod Cabinet y Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden, Kevin Jones, a oedd wedi gweithio’n galed ar y prosiect, gan gynnwys cael y symiau mwyaf posib’ o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Butler fod hon yn enghraifft dda o arweiniad gan Gyngor Sir y Fflint mewn prosiectau ar y cyd ar gyfer gwasanaethau hanfodol.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Bithell sut y byddai allyriadau o sylweddau gronynnol mân yn cael eu monitro.  Atebodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn cael ei fonitro’n rheolaidd ac yn fwy trylwyr nag oedd ei angen yn unol â safon y diwydiant.  Byddai manylion y canlyniadau monitro hynny ar gael i’r cyhoedd.  Wrth ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r Gronfa Manteision Cymunedol wedi’i chyfyngu i ardal Partneriaeth Glannau Dyfrdwy.

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar etifeddu’r prosiect yn 2012 gan y weinyddiaeth flaenorol.  Er nad oedd yn cefnogi’r dechnoleg, roedd yn falch o ganlyniad y Gronfa Manteision Cymunedol gan y byddai Cynghorau eraill yn cyfrannu i’r Gronfa honno, a fyddai’n darparu buddion i ardal Glannau Dyfrdwy.

 

                        Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r swyddogion am y manylion ar lefel y monitro a fyddai'n cael ei gweithredu, a fyddai'n cael ei chroesawu gan drigolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi bod y contract wedi’i ddyfarnu, a

 

 (b)      Nodi’r dyddiad gweithredu sydd wedi’i drefnu ar gyfer Parc Adfer.

Awdur yr adroddiad: Steffan Owen

Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2017

Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/06/2017

Accompanying Documents: