Manylion y penderfyniad

Datgan Cysylltiad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Datganodd y Cynghorydd David Wisinger gysylltiad personol sy’n rhagfarnu, gan ei fod yn un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd John Summers, ag eitem rhif 7.2 ar y rhaglen – Cais Llawn – Dymchwel yn rhannol, er mwyn hwyluso gwaith ad-drefnu mewnol ac adeiladu estyniad newydd i adeilad presennol yr ysgol a newidiadau allanol gyda newidiadau cysylltiedig allanol i’r tir /maes parcio, a darparu ystafelloedd dosbarth a mannau storio dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, Golftyn Lane, Cei Connah (056851).  

 

Datganodd y Cynghorydd Christine Jones hefyd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r eitem uchod am ei bod hithau’n un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd John Summers ac am fod aelodau ei theulu'n mynychu Ysgol Uwchradd John Summers  ac Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

 

Datganodd y Cynghorydd Ian Dunbar hefyd gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem rhif 7.2 ar y rhaglen, gan ei fod ef yn un o lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

 

Datganodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke ei bod eisoes wedi gwneud ei phenderfyniad o ran y cais ac ar ôl cael cyngor cyfreithiol, byddai’n siarad fel Aelod lleol dim ond cyn i’r eitem gael ei thrafod ac yna byddai’n gadael yr ystafell ar ôl siarad – eitem rhif 7.5 ar y rhaglen – Cais Llawn – Codi Siop Fferm a gwaith cysylltiedig, ffurfio mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr yn Fferm Coppy, Cilcain Road, Gwernaffield (056664). 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2017

Dyddiad y penderfyniad: 07/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/06/2017 - Pwyllgor Cynllunio