Manylion y penderfyniad

Treasury Management Annual Report 2016/17 and Treasury Management Update Quarter 1 2017/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The report presents the draft Treasury Management Annual Report 2016/17 for review and seeks the Committee’s recommendation for approval to Cabinet.

The report provides an update on matters relating to the Council’s Treasury Management Policy, Strategy and Practices 2017/18 to the end of May 2017.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol ar Bolisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2016/17 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet.

 

Yn rhan o ddiweddariad ar weithgarwch rheoli’r trysorlys yn chwarter cyntaf 2017/18, adroddwyd cynnydd bychan yn y portffolio buddsoddi.  Roedd y sefyllfa mewn perthynas â benthyca’n adlewyrchu’r strategaeth i ddefnyddio benthyca tymor byr ar gyfraddau is.    Roedd graff yn dangos symudiadau ar fuddsoddiadau a balansau benthyca tymor byr rhwng mis Ebrill 2016 a Mehefin 2017. I ategu'r drefn adrodd ar gyfer 2017/18, byddai sesiwn hyfforddi gan yr ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys, Arlingclose Ltd, yn cael ei threfnu ar gyfer yr holl aelodau’n gynnar ym mis Ionawr 2018.

 

Amlygodd y Cadeirydd yr angen am sicrwydd ar allu’r cyfrif refeniw i ymdopi â lefelau cynyddol y dyledion allanol ynghyd â chymhariaeth â chynghorau eraill.  Cytunodd Rheolwr Cyllid i gynnwys hyn yn yr adroddiad diweddaru nesaf.  Tynnodd sylw at yr adroddiad Cabinet diweddar ar Ddangosyddion Darbodus a oedd yn cynnwys canran y costau refeniw a oedd yn mynd at ddyled tymor hir.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cadeirydd, rhoddwyd eglurhad ar y gwasanaethau arbenigol a ddarparwyd gan Arlingclose ac ar broffil terfynau dyledion lle'r oedd uchafbwyntiau’n adlewyrchu’r benthyciadau a gymerwyd i roi diwedd ar y system cymorthdaliadau tai negyddol.

 

Holodd y Cynghorwyr Paul Johnson a Chris Dolphin yngl?n â benthyca tymor byr rhwng cynghorau.  Eglurodd Rheolwr Cyllid fod gwahaniaeth rhwng rheoli llif arian y Cyngor a’r sefyllfa gyllidebol yr oedd cynghorau yn ei hadrodd ac fe gyfeiriodd at y graff a oedd yn dangos symudiadau yn y balansau arian wedi'u rheoli gan fuddsoddiadau tymor byr a benthyca tymor byr.

 

Mewn perthynas â sylw blaenorol y Cynghorydd Dolphin, roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn teimlo bod nifer ddigonol yn y Pwyllgor.  Cynigiodd y gallai’r Pwyllgor, yn enwedig aelodau mwy newydd, elwa o hyfforddiant ychwanegol cyn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Johnson.  Awgrymodd hefyd y gallai Arlingclose ddarparu’r hyfforddiant drwy gyswllt fideo.  Eglurodd Rheolwr Cyllid fod y contract gydag Arlingclose yn caniatáu un sesiwn hyfforddiant y flwyddyn, felly, efallai y byddai cost ychwanegol am hyfforddiant ychwanegol, neu fe ellid ystyried darparu hyfforddiant mewnol gan swyddogion.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at fanteision aelodaeth arbenigol, lai yn y Pwyllgor ond fe ddywedodd y gellid adolygu maint y Pwyllgor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf os oedd yr aelodau'n dymuno.

 

Gwahoddodd Rheolwr Archwilio Mewnol Dros Dro awgrymiadau am themâu penodol ar gyfer yr hyfforddiant, y gellid eu cynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2016/17 ar Reoli’r Trysorlys heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 26 Medi 2017.

 

 (b)      Nodi Diweddariad Chwarter 1 2017/18 ar Reoli’r Trysorlys; a

 

 (c)      Bod hyfforddiant ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor cyn sesiwn hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys.

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2017

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/07/2017 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: