Manylion y penderfyniad
North Wales Construction Framework (NWCF)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To consider options for the re-procurement of
the NWCF
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a amlinellai Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru ac a fyddai’n dod i ben fis Mai 2018, ac fe gynigodd ddull ar gyfer adnewyddu’r Cytundeb Fframwaith.
Roedd y Fframwaith yn darparu dull effeithlon, cost-effeithiol a chydweithredol o benodi contractwyr ar gyfer prosiectau adeiladu mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Fframwaith cyfredol wedi bod yn brosiect cydweithredol llwyddiannus ac roedd yn rhoi enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus fel Campws Dysgu Treffynnon a 6ed Glannau Dyfrdwy – Coleg Cambria.
Un o brif fanteision y Fframwaith oedd darparu buddion cymunedol ac roedd yr adroddiad yn darparu manylion 20 o brosiectau rhanbarthol llwyddiannus.
Byddai adnewyddu’r Fframwaith yn sicrhau bod dull effeithiol er mwyn cyflawni cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, yn ogystal ag adeiladu neu adnewyddu adeiladau cyhoeddus eraill. Roedd manylion Fframwaith Adeiladu diweddaraf Gogledd Cymru wedi’u hamlinellu yn atodiad yr adroddiad, a groesawyd gan yr aelodau.
PENDERFYNWYD:
Bod y dull a amlinellwyd i greu Fframwaith Adeiladu diweddaraf Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi.
Awdur yr adroddiad: Damian Hughes
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2017
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/06/2017
Accompanying Documents: