Manylion y penderfyniad
Deeside Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Cymeradwywyd yr argymhellion
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek Cabinet approval of the Deeside Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Cynllun Glannau Dyfrdwy a oedd yn nodi gweledigaeth ar gyfer twf economaidd ar gyfer y 30 mlynedd nesaf. Roedd yn cynnwys y rhaglenni lefel uchel o waith oedd eu hangen i gyflawni'r dyheadau ar gyfer Glannau Dyfrdwy fel elfen allweddol mewn twf economaidd rhanbarthol ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl leol.
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio bod y cynllun wedi cael ei ddatblygu i nodi sut y gallai uchelgeisiau ar gyfer twf economaidd i Lannau Dyfrdwy gael ei gyflawni, gwneud y mwyaf o dwf i bobl leol ac ar gyfer y rhanbarth ehangach tra hefyd yn diogelu ac yn gwella ansawdd bywyd. Pwrpas y Cynllun oedd:
· Creu gweledigaeth lefel uchel uchelgeisiol ar gyfer twf economaidd yng Nglannau Dyfrdwy dros y 30 mlynedd nesaf;
· Gosod yr egwyddorion er mwyn adnabod safleoedd i’w datblygu yn y dyfodol ar ôl Porth y Gogledd a Warren Hall, gan gydnabod yr amserlenni hir sydd eu hangen i wneud hynny;
· Sicrhau bod isadeiledd cludiant, datblygu economaidd a chynllunio defnydd tir yn cael eu hystyried ochr yn ochr;
· Alinio strategaethau a rhaglenni rhanbarthol a lleol yn y dyfodol;
· Meithrin dealltwriaeth o anghenion yr ardal ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a busnesau i annog cefnogaeth; a
· Darparu offeryn ar gyfer Partneriaeth Glannau Dyfrdwy, y Cyngor ac eraill i fonitro cynnydd.
Amlygwyd cludiant fel blaenoriaeth benodol yn y Cynllun o ganlyniad i heriau presennol a'i botensial i gyfyngu twf yn y dyfodol. Y blaenoriaethau oedd:
· Gwneud y mwyaf o werth y buddsoddiadau isadeiledd cludiant rhanbarthol gan gynnwys gwelliannau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r rhwydwaith ffyrdd strategol o amgylch Glannau Dyfrdwy;
· Sicrhau bod gwelliannau isadeiledd cludiant yn cael eu cynllunio ochr yn ochr â chyfleoedd datblygu yn y dyfodol gan gydnabod y gallai’r ddwy broses gymryd sawl degawd i ddwyn ffrwyth; a
· Chefnogi'r newid o ddefnyddio ceir preifat i ffurfiau mwy cynaliadwy o deithio a thyfu isadeiledd teithio llesol.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a fyddai'n darparu buddion a chyfleoedd i'r ardal ac ar draws y rhanbarth. Esboniodd y byddai proses ymgynghori 12 wythnos o hyd ar wella ffordd yr A494/A55 yn dechrau ar 13 Mawrth.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddent yn derbyn gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am Weledigaeth a Chysylltedd Metro Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD
(a) Bod Cynllun Glannau Dyfrdwy yn cael ei gymeradwyo;
(b) Bod y cynigion cludiant ar gyfer Glannau Dyfrdwy yn cael eu cymeradwyo; a
(c) Bod y Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad gwella A494/A55 Llywodraeth Cymru sydd i ddod gan roi achos cryf dros welliannau sy’n atal tagfeydd ac yn hwyluso cyflwyno Cynllun Glannau Dyfrdwy.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/02/2017
Dogfennau Atodol: