Manylion y penderfyniad

Connah's Quay Swimming Pool : Cambrian Aquatics Overview of Business Plan 2016/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To consider the Grant Allocation to Cambrian Aquatics for the Year 2017/18

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones yr adroddiad Trosolwg o Gynllun Busnes Pwll Nofio Cei Connah: Cambrian Aquatics 2016/18 a chroesawodd Simon Morgan, Cyfarwyddwr Cambrian Aquatics i’r cyfarfod.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) gefndir yr adroddiad yn dilyn trosglwyddiad Cambrian Aquatics fel rhan o’r cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) ym mis Mai 2016. 

 

Ers i’r pwll nofio agor ym mis Mai 2016 roedd wedi gweithredu’n llwyddiannus ac roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r cynnydd cadarnhaol a wnaed.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig grant o £0.065 miliwn am yr ail flwyddyn o weithredu yn seiliedig ar gynllun busnes wedi’i ddiweddaru a ymddangosodd fel eitem rhif 15 ar y rhaglen a byddai’n cael ei thrafod mewn sesiwn gaeedig yn sgil sensitifrwydd masnachol.

 

Diolchodd Simon Morgan yr Arweinydd am y cyfle i annerch Aelodau i amlygu cynnydd Cambrian Aquatics hyd yma.

 

Eglurodd bod 26 o staff wedi cael eu recriwtio a dros £20,000 wedi ei fuddsoddi mewn hyfforddi staff ers ei sefydlu.  Roedd 14 ysgol gynradd yn defnyddio’r pwll ar gyfer gwersi nofio gyda’r cyfle am waith distaw ar ôl eu gwersi nofio.Roedd pob un o’r buddion cymunedol wedi eu cyflawni ac roedd nifer y sesiynau nofio cyhoeddus wedi dyblu ac wedi cael adborth ardderchog.  Roedd atodlen gynnal a chadw glir ar waith gyda chynlluniau i ddisodli’r goleuadau presennol sy’n llai effeithlon o ran ynni ac roedd gwaith yn cael ei wneud i ddenu cyllid grant i dalu am y prosiect hwnnw.  Roedd llif arian y busnes yn parhau’n her ond roedd y targed o £50 yr awr yn cael ei gyflawni ar y cyfan.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) ei fod yn esiampl ardderchog o CAT llwyddiannus.  Byddai’r grant refeniw o £0.065 miliwn yn cynorthwyo’r busnes i ddechrau ar yr ail flwyddyn a'i helpu i greu cronfeydd wrth gefn ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i Simon Morgan, y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) a’r Cynghorydd Kevin Jones am y gwaith ar y CAT.  Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol ac yn dangos fod yr hyn roedd yr awdurdod wedi mynd ati i'w gyflawni wedi ei sicrhau ac wedi arwain at ddiogelu dyfodol y pwll nofio yng Nghei Connah ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod gwaith yn mynd rhagddo gyda Chynghorau Tref a Chymuned i geisio denu buddsoddiadau ar gyfer Cambrian Aquatics.  Ychwanegodd Simon Morgan fod y cyfleusterau yn cael eu defnyddio gan drigolion o ddalgylch eang iawn ac roedd gwybodaeth ddemograffig ar y defnydd cyffredinol wedi’i rannu gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod hwn yn drobwynt i Gyngor Sir y Fflint, a welodd sefydliad yn tyfu o’r ddaear i fyny, rhywbeth na welwyd o’r blaen, a gellid rhannu profiadau gyda CATs eraill.  Cadarnhaodd Simon Morgan fod cyfarfodydd wedi eu cynnal gyda grwpiau CAT eraill ac roedd yn barod i gynnig cyngor ar eu datblygiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Darparu grant refeniw o £0.065 miliwn i Cambrian Aquatics i gefnogi gweithrediad pwll Nofio Cei Connah yn unol â chytundebau cyfreithiol sydd eisoes wedi eu llofnodi rhwng Cambrian Aquatics a Cyngor Sir y Fflint.

Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft

Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2017

Dyddiad y penderfyniad: 17/01/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/01/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 26/01/2017

Accompanying Documents: